Dyma swydd Prentisiaeth.
Cewch eich cyflogi gan Rycon Steels a byddwch yn ymgymryd â Rhaglen Brentisiaeth, gan dderbyn cymorth ac arweiniad gan Aseswr profiadol i’ch helpu i gyflawni cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes.
Enw’r Cwmni: Rycon Steels Ltd
Lleoliad: Tredelerch, Caerdydd
Teitl y Swydd: Prentis Gweinyddu Busnes
Rhaglen Brentisiaeth: Cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes.
Hyd y contract: 18 mis
Oriau Gwaith: 40
Diwrnodau ac Amseroedd Gweithio: 7:45am – 4:30pm ddydd Llun i ddydd Iau a dydd Gwener 7.30am – 3.00pm
Cyflog: £4.81 yr awr
Trosolwg o’r Cwmni: Ffurfiwyd Rycon Steels Ltd ym 1970. Rydym yn cynnig amrediad llawn o gynhyrchion at ddefnydd DIY, adeiladwr neu fasnachol ac rydym yn cynnig gwasanaeth ffabrigo. Rydym yn gwasanaethu ardal de Cymru yn gyflym ac yn effeithlon.
Dyletswyddau Allweddol: Bydd y rôl gweinyddu busnes a datblygu gwerthiannau’n cynnwys darparu cymorth i’r tîm gwerthu i sicrhau bod nwyddau dur yn cael eu danfon yn amserol ac yn gyson i’w gwsmeriaid, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod darpar gwsmeriaid a chwsmeriaid presennol yn parhau’n fodlon gyda’r cwmni.
- Gweithio ochr yn ochr â’r rheolwr swyddfa
- Ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid am nwyddau a gwasanaethau yn amserol ac yn gyfeillgar.
- Ymchwil ad-hoc i’r farchnad.
- Rheoli gohebiaeth, galwadau a negeseuon e-bost sy’n cyrraedd.
- Cefnogi’r rheolwr swyddfa â gwerthiannau.
- Adnabod a rhoi gwybod am fusnes newydd posibl.
- Cyfrannu’n gadarnhaol at dwf y cwmni trwy ddarparu cymorth gofynnol i staff perthnasol.
Gofynion Hanfodol/Dymunol:
- Agwedd ragweithiol a chadarnhaol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Sgiliau trefnu a sgiliau rheoli amser rhagorol
- Sylw i fanylder sy’n ofynnol i gyflwyno safonau gwaith cyson uchel.
- Agwedd ragweithiol a chadarnhaol.
- Awydd cryf i gyflawni nodau’r cwmni
- Gallu cwrdd â therfynau amser a, hefyd, cyflawni tasgau lluosog ar yr un pryd.
- Yn meddu ar hunangymhelliad ac yn gallu gweithio’n annibynnol, gyda bach iawn o oruchwyliaeth.
- Aelod da o dîm.
- Ffordd broffesiynol a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Hyblyg a pharod i ymgymryd â thasgau gwahanol fel bo’r gofyn
Ystyriaethau COVID-19: Dilyn canllawiau presennol y llywodraeth
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau:
8th July 2022
Interview Date: TBC