Efallai dy fod di’n chwilio am y swydd iawn, yn meddwl am dy gamau nesaf ym myd addysg neu efallai fod angen rhywfaint o gymorth arnat i gyrraedd yno.
Dyna le gall Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) dy helpu di. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder a chael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd modd i ti gael gafael ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn dy ardal.
Rhaglen hyfforddi a datblygu yw TSC+ sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Os wyt ti’n byw yng Nghymru, rhwng 16 a 18 oed a ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth na hyfforddiant gallet elwa o TSC+.
Mae’n rhaglen hyblyg iawn, wedi’i chynllunio o dy gwmpas di. Felly, mae’n ddewis doeth os wyt ti eisiau ychydig o help neu os wyt ti angen fwy o gymorth gydag anghenion penodol.
Gadewch i ni wybod eich cyfeiriad e-bost a bydd ein tîm ymroddedig yn cysylltu â chi!