16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Maw 2024 / Learners

Alisha Thomas, dysgwr ACT talentog, yn fuddugol yn rowndiau terfynol WorldSkills UK! Cafodd ei henwi gan y beirniaid fel enillydd medal aur, ar ôl ei chyflwyniad diddorol ar newidiadau hanfodol i ddeiet.

Cyflwynodd y ferch ddisglair 18 mlwydd oed sgwrs am fwyta’n iach, wedi’i hanelu at rywun yn gwella o strôc. Esboniodd sut y gallai deiet gwell ei atal rhag digwydd eto, ar gyfer yr ornest, a gynhaliwyd o bell, ddydd Gwener 19 Tachwedd. Hi yw’r dysgwr ACT cyntaf i ennill medal yn WorldSkills UK!

Wrth ennill y wobr hon, dywedodd Alisha: “Rwy’n hapus iawn ac yn falch ohonof fi fy hun am ennill a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Kath, Jon, fy nheulu ac aelodau staff ACT am fy annog a’m helpu gyda’r gystadleuaeth.”

Yn gynharach yn y flwyddyn, cyflwynwyd medal aur anhygoel arall i Alisha, gan Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, am ei byrddau stori addysgol trawiadol, yn seiliedig ar y llyfr plant poblogaidd, The Gruffalo.

Daeth â stori dylwyth teg fodern poblogaidd Julia Donaldson yn fyw, gyda darnau o gerdyn wedi’u haddurno’n grefftus a llwyau pren wedi’u paentio. Esboniodd yr arddangosfa stori cymeriadau Mouse, Snake, Fox ac Owl, a’r gwersi pwysig a ddysgwyd ganddynt, drwy ddod ar draws y prif gymeriad Gruffalo.

Roedd Alisha, sydd wedi bod wrth ei bodd â llyfr The Gruffalo ar hyd ei hoes, yn falch iawn o ennill! Dywedodd: “Pan gefais wybod fy mod wedi ennill Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, cefais fy synnu’n fawr ac roeddwn i’n falch ohonof fy hun! Mae’n gamp anhygoel.”

Ar hyn o bryd mae’r ferch sydd wrth ei bod ag anifeiliaid, o Dredegar Newydd, Caerffili, yn astudio Gofal Plant Lefel 1 gydag ACT. Fe wnaeth hi ddarganfod ACT drwy aelod o’r teulu, a’i helpodd i ddod o hyd i gwrs i helpu i gyrraedd ei nod gyrfaol o weithio fel addysgwr plentyndod cynnar neu weithiwr gofal plant, mewn ysgol gynradd neu feithrinfa.

Dywedodd fod tiwtoriaid ACT wedi bod yn gymorth anhygoel ac wedi rhoi hwb aruthrol i’w hyder.

“Bob tro rwy’n cael trafferth gyda darn o waith neu weithgaredd byddant bob amser yn fy helpu,” esboniodd. “Nid yn unig hyn, ond maen nhw’n eich sicrhau eich bod chi’n gallu gwneud pethau rydych chi’n teimlo nad ydych chi’n gallu eu gwneud a’ch bod chi’n gallu gwneud unrhyw beth rydych chi’n gosod eich meddwl iddo.”

Ychwanegodd: “Rwyf wedi datblygu llawer o sgiliau yn ACT a fydd o fudd i mi yn y dyfodol. Rwyf wedi dysgu sut i weithio’n annibynnol ac mewn tîm. Maen nhw wedi fy helpu gyda fy sgiliau cyfathrebu ac wedi magu fy hyder yn aruthrol. Un o’r sgiliau rwyf wedi’i ddysgu yw datrys problemau a gyda’r yrfa rwyf am ei gwneud, bydd llawer o weithiau y bydd yn rhaid i chi feddwl yn y fan a’r lle a meddwl am ateb, felly bydd y sgil hwn o fudd mawr i mi yn y dyfodol ac yn fy helpu i fod yn fwy cyflogadwy.”

Dysgodd ymhellach sut i ymdrochi babi’n gywir, newid cewynnau a gwneud poteli – pob un yn bwysig ar gyfer gweithio ym maes gofal plant. Mae hi bellach yn rhoi ei sgiliau ar waith yng Ngofal Dydd First Steps yn Aberbargoed, lle mae hi’n mwynhau lleoliad.

Os yw stori Alisha wedi eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn Gofal Plant, gallwch ddysgu mwy am ein cymhwyster Gofal Lefel 1 yma, neu cysylltwch â ni i gael gwybod mwy!

Rhannwch