16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Maw 2024 / Company

Mae ACT wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+) yng Ngwobrau Investors in People 2021.

Mewn blwyddyn sy’n torri record ar gyfer ceisiadau, gyda bron i dri chant o sefydliadau’n cymryd rhan, mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn un mae pawb yn ACT yn falch ohono.

Mae’r Gwobrau Investors in People yn dathlu’r sefydliadau ac unigolion gorau o bob cwr o’r byd ar draws gwahanol gategorïau sefydliadol, pobl, lles ac arweinyddiaeth. Bob blwyddyn mae cannoedd o sefydliadau o’r DU a thramor yn brwydro i fynd ag un o’r tlysau a geisir yn ddyfal adref i ddangos eu hymrwymiad arobryn i fuddsoddi yn eu pobl.

Meddai Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT: “Mae’r fframwaith Investors in People yn sail i’n nod strategol ar gyfer gweithlu hapus ac ymgysylltiol, felly rydym yn falch iawn o fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog hon.”

Mae ACT yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC). Dywedodd Geraint Evans, Cadeirydd CAVC: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dyst i waith caled yr holl dîm yn ACT!”

Ychwanegodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Investors in People: “Nawr yn ein 8fed flwyddyn, mae bob amser yn gwneud i mi deimlo’n hynod falch o weld cymaint o sefydliadau gwych yn llwyfannu eu cais i fod y gorau. A phob blwyddyn, mae’r ceisiadau’n mynd yn fwy a mwy cystadleuol a’r beirniadu hyd yn oed yn dynnach. Mae cyrraedd y rhestr fer derfynol yn dyst i’r ymrwymiad anhygoel mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud i wneud gwaith yn well i’w pobl, ac maen nhw wir yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”

Cyhoeddir yr Enillwyr mewn seremoni ar-lein ar 23 Tachwedd 2021.

I gael y rhestr fer lawn a mwy o wybodaeth am Investors in People, ewch i www.investorsinpeopleawards.com.

Noddir Gwobrau Investors in People 2021 yn falch gan Activate Apprenticeships, Ambu, Boost Awards, CIPD, Fineprint, Gaudio Awards, Make a Difference Summits, The Youth Group, Troup Bywaters + Anders, United Grand Lodge of England, WAVE Refrigeration a Working Families.

Mae’n anrhydedd i ni fod ar y rhestr fer yng Ngwobrau Investors in People eleni! Ar ôl creu argraff ar feirniaid, mae ACT yn rhedeg ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+). Am fwy, cliciwch YMA.

Rhannwch