16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Maw 2024 / Company
Yn fwy a mwy, clywn bobl yn sôn am hyfforddi a sut mae’n cael ei gydnabod yn fuddsoddiad clyfar i fusnesau. Ond beth yn union yw hyfforddi? A sut y gall ymgorffori diwylliant hyfforddi mewn sefydliad ddwyn ffrwyth hirdymor enfawr, gan arwain at lwyddiant ysgubol?

Hyfforddi yn y gweithle

Diben hyfforddi yn y gweithle yn y pen draw yw gwella perfformiad unigolyn yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys nail ai gwella eu sgiliau presennol neu drwy gaffael rhai newydd. Mae’n cael ei gydnabod yn gynyddol bod unigolion a grwpiau yn perfformio’n well gyda hyfforddiant a bod y perfformiad hwn yn trosi’n ganlyniadau busnes mesuradwy. Yn ogystal â gwella sgiliau staff (arweinyddiaeth) yn ddramatig, mae hyfforddiant unigol yn helpu pobl i fanteisio ar eu potensial anhysbys; datgloi ffynonellau creadigrwydd a chynhyrchedd. Yn y gweithle, mae hyfforddiant yn canolbwyntio ar helpu unigolyn i ddysgu mewn ffyrdd sy’n ei alluogi i barhau i dyfu yn ei yrfa. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ysgogi ffyrdd newydd o feddwl a gofyn cwestiynau, yn hytrach na rhoi cyfarwyddiadau. Yn y bôn, mae hyfforddi pan gaiff ei wneud yn iawn, yn creu gweithlu egnïol a brwdfrydig. Yn ased amhrisiadwy a gwerthfawr ar gyfer unrhyw fusnes.

Dyma 6 rheswm pam fod buddsoddi mewn hyfforddi yn gam busnes doeth:

Cynhyrchiant a pherfformiad cynyddol

Wrth wraidd hyfforddi mae proses greadigol sy’n procio’r meddwl ac sy’n helpu unigolion i fynd ar drywydd syniadau newydd ac atebion amgen gyda yn hyderus a gyda mwy o wytnwch. O ganlyniad, mae busnesau’n gweld gwelliant mewn perfformiad staff yn uniongyrchol drwy sicrhau bod staff yn cyflawni eu potensial a’u huchelgais drwy annog staff i oresgyn problemau perfformiad a heriau bywyd go iawn costus sy’n cymryd llawer o amser. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o gwblhau prosiectau mewn pryd, i gynyddu allbwn neu werthiant. Yn ei hanfod, mae hyfforddi yn hybu cynhyrchiant drwy helpu gweithwyr i weithio’n fwy doeth.

Bydd Ymgysylltiad Staff yn tyfu

Mae hyfforddiant yn annog staff i archwilio gwahanol lwybrau a rhoi cynnig ar ddulliau newydd, er mwyn cyflawni nodau neu oresgyn heriau. Mae staff yn cael eu hannog i feddwl y tu allan i’r blwch ac ymrwymo i gymryd camau tuag at eu llwyddiant. Mae’r broses o wneud hyn yn rhoi mwy o deimlad o berchnogaeth ac atebolrwydd i’r aelod o’r tîm. Mae’r ymagwedd hon yn llawer gwell na ‘dweud beth i’w wneud’. Wrth i staff feithrin sgiliau gwerthfawr ac ehangu eu gwybodaeth, gallant wedyn ddefnyddio hyn i hybu eu gyrfaoedd.

Cyfraddau gwell o ran cadw staff

Gall trosiant staff uchel gael effaith negyddol enfawr ar gynhyrchiant a pherfformiad busnes. Gyda hyfforddiant, mae gweithiwyr yn llawer mwy tebygol o fod yn deyrngar a brwdfrydig pan fydd eu rheolwyr yn cymryd amser i’w helpu i wella eu sgiliau. Wrth i staff gael eu hannog i deimlo mwy o berchenogaeth ac atebolrwydd yn eu datblygiad eu hunain, mae’n eu galluogi i weld cyfleoedd ar gyfer twf gyda’u cyflogwr. Pan fydd gweithwyr yn cael eu hyfforddi maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog, ond maen nhw hefyd yn profi’r balchder a’r boddhad a ddaw yn sgîl goresgyn heriau newydd.

Datblygu talent

Drwy gryfhau sgiliau eich gweithwyr gallwch ddirprwyo mwy o dasgau iddynt a chanolbwyntio ar gyfrifoldebau rheoli pwysig eraill – megis cynllunio a strategeiddio. Drwy feithrin eich staff drwy hyfforddi, rydych yn helpu i feithrin a datblygu cronfa o dalent y bydd eich busnes a’ch staff yn elwa ohoni.

Yn ACT Training rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gymwysterau rheoli sy’n darparu hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheoli, i gyd wedi’u cynllunio i ddatblygu rheolaeth effeithiol a gwella arweinyddiaeth yn eich gweithlu. Gyda chyrsiau wedi’u creu ar gyfer rheolwyr newydd neu ddarpar reolwyr hyd at uwch reolwyr profiadol, bydd ein hyfforddwyr profiadol yn darparu rhaglen o hyfforddiant rheoli achrededig i ddiwallu eich anghenion penodol. Wedi’i gynllunio i gyd-fynd â bywyd gwaith rheolwr ac arweinwyr prysur, mae ein cymwysterau sydd wedi’u hachredu gan ILM yn cael eu cyflwyno drwy weithdai misol ac yn cael eu hasesu drwy aseiniadau hunan-astudio. Nid oes angen unrhyw arholiadau nac ymweliadau i’ch gweithle. Ewch yma i gael gwybod mwy-

https://www.cymraeg.acttraining.org.uk/apprenticeship-learners////management/?force=2

 

 

Rhannwch