Os ydych am wella eich hun, eich bywyd a'ch rhagolygon gyrfaol yna rydych wedi dod i'r lle cywir.
Bob blwyddyn rydym yn helpu dros 6,500 o bobl i gyflawni eu huchelgais gyrfaol trwy ein rhaglenni hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth amrywiol ledled Cymru.
Yn ACT, rydym i gyd yn hynod frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu gwych - ac mae pob un o’r 385 ohonom yn dod i'r gwaith bob dydd i wneud hynny.
Gyda'r rhan fwyaf o'n rhaglenni, boed yn Hyfforddeiaeth, yn Brentisiaeth neu’n Brentisiaeth Uwch, rydych yn dysgu yn y gwaith, ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, ennill cyflog a sgiliau ac adeiladu gyrfa werth chweil.
edrychwch ar ein llyfryn Byw Dysgu Ennill - eich arweiniad ar gyfer cael y cyfan!