Os ydych chi’n frwd dros greu byd gwell, hoffem glywed gennych!
ACT: lle gwych i weithio
Yn ACT, ein nod yw i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu rhaglenni dysgu rhagorol. Rydyn ni'n wych yn yr hyn rydym ni'n ei wneud, ond rydym am fod hyd yn oed yn well. Rydym am ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i'n holl ddysgwyr, ac am i ACT fod yn lle hollol wych i weithio. Rydyn ni'n credu bod hynny'n her eithaf cyffrous a gwerth chweil, a hoffem gael eich help i gyflawni ein uchelgais i fod y gorau.
Rydyn ni'n gwybod y byddwn ni ond yn llwyddiannus os yw ein holl bobl yn hapus a bod ganddynt bopeth sydd ei angen i weithio hyd eithaf eu gallu. O'r herwydd, rydym yn canolbwyntio ar ganfod a chadw'r bobl fwyaf talentog, a buddsoddi ynddynt fel eu bod yn ffynnu ac yn tyfu ac yn mwynhau eu hamser gyda ni.
Rydym wedi derbyn cydnabyddiaeth am ein hymrwymiad i wneud fan hyn yn lle gwych i weithio. Rydym wedi ennill achrediad Aur Buddsoddwyr mewn Pobl ers 2012 ac rydym hefyd wedi ennill achrediad mawreddog y Sunday Times, Best Companies UK yn 2018, 2015, 2014 a 2012. Rydym yn falch iawn o hyn, ond ni fyddwn byth yn fodlon yn ein hymgais i sicrhau rhagoriaeth - ac rydym bob amser yn chwilio am dalent newydd a syniadau newydd.
Beth bynnag, digon amdanom ni a'n gwobrau. Dysgwch fwy am y bobl wych sy'n gweithio yn ACT a pham y dylech ystyried ymuno â'r tîm!
Gwerthoedd craidd
Rydym yn hoffi gwneud pethau ychydig yn wahanol ac mae ein ffordd o weithio wedi creu diwylliant gwych wedi'i seilio ar set glir o werthoedd craidd.
Manteision
Rydym yn gredinwyr mawr mewn gwobrwyo pobl am y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Edrychwch ar manteision llawn yma.
Datganiad Preifatrwydd
Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd yn llawn yma.
Pan fod gofyn, gall ACT wneud addasiadau rhesymol i'r broses gyfweld a/neu gynnig cyfweliadau gwaith/treialon gwaith i ymgeiswyr nad ydynt yn gallu mynychu trefniadau safonol oherwydd anabledd.
Er mwyn trafod unrhyw un o’r swyddi gwag sydd ar gael ymhellach, cysylltwch gydag aelod o’n tîm Pobl a Datblygu ar 02920 464727.
Swyddi Gwag
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o rywbeth gwych, cysylltwch â ni heddiw neu edrychwch ar ein cyfleoedd presennol isod: