Dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu nifer o ddulliau arloesol ar gyfer cyflwyno hyfforddiant, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ac adnoddau ar-lein i wella'r profiad dysgu a chwrdd ag anghenion y cyflogwr a'r gweithiwr.
Rydym yn gweithio gyda dros 1,100 o gyflogwyr ledled Cymru, gan gynnwys y BBC, British Gas, NatWest, Barclays, Y Celtic Manor, Byrddau Iechyd y GIG, Radisson Blu, Wessex Garages, Prifysgol Caerdydd a Thŷ'r Cwmnïau yn ogystal â busnesau bach llwyddiannus fel Terry’s Patisserie, The Vanilla Rooms a Duck Island.
Mae gennym dîm medrus iawn o aseswyr a hyfforddwyr sydd wedi eu lleoli ledled Cymru ac sydd â phrofiad helaeth o ddiwydiant. Mae hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi, bod yr hyfforddiant a’r dysgu yn cael ei ddarparu gan arbenigwr sy'n deall anghenion, pwysau ac weithiau gofynion unigryw eich diwydiant chi.
Did you know… if you employ an apprentice of have a learner on placement that you have a responsibility to be aware of the Prevent duty and understand your Prevent related responsibilities, especially in the context of safeguarding? To help you with this, we’ve put together a short Prevent guide for employers.
Os ydych yn gyflogwr, gallech chi a'ch cyflogeion elwa o nifer o wasanaethau a chyfleoedd ariannu a gynlluniwyd i gyflwyno talent a meithrin twf o fewn eich busnes.