Derbyn hyd at £3,000* mewn cyllid wrth gyflogi prentis newydd!
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa sgiliau a swyddi newydd gwerth £40 miliwn i annog a chefnogi cyflogwyr i greu cyfleoedd prentisiaeth a chyflogaeth newydd ledled Cymru.
Menter cyflogwr
Mewn ymgais i greu 6,000 o rolau prentisiaeth newydd, gall busnesau fod yn gymwys i gael taliad cymhelliad o hyd at £3,000 ar gyfer pob prentis newydd fydd yn cael ei gyflogi. Bydd y cymhellion yn rhedeg rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2021 a byddant yn helpu busnesau i ddatblygu a chynnal gweithlu medrus.
Mae gwahanol gymhellion ar gael i gyflogwyr, yn dibynnu ar oedran ac oriau cyflogaeth y dysgwr. Mae cymhellion hefyd i fusnesau sy'n recriwtio ymgeiswyr anabl neu brentisiaid a ddiswyddwyd o'u cyfle prentisiaeth blaenorol.
Y cyllid sydd ar gael:
Y cymhelliad i gyflogi pobl ifanc 16-24 mlwydd oed
- *£3,000 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sydd o dan 25 mlwydd oed lle mae'r contract cyflogaeth o leiaf 30 awr yr wythnos.
- £1,500 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sydd o dan 25 mlwydd oed lle mae'r contract cyflogaeth rhwng 16 a 29 awr yr wythnos.
Y cymhelliad i gyflogi prentisiaid 25 mlwydd oed a throsodd
- £2,000 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sy’n 25 mlwydd oed a throsodd lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos.
- £1,000 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd yn 25 oed a throsodd lle mae'r contract cyflogaeth o dan 30 awr yr wythnos.
Cyfyngir y taliadau i uchafswm o ddeg prentis fesul cyflogwr. Rhaid i gyflogwyr allu ymrwymo i gyflogi'r prentis am yr amser sydd ei angen i gwblhau'r fframwaith prentisiaeth.
Y cymhelliad i ail-gyflogi prentis sydd wedi colli ei swydd
- £2,600 ar gyfer ail-gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos.
- £1,300 ar gyfer ail-gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi, lle mae'r contract cyflogaeth rhwng 16-29 awr yr wythnos.
Rhaid bod prentisiaid wedi colli eu swyddi o raglen/rôl Brentisiaeth flaenorol rhwng 23/03/2020 a 28/02/2021. Mae'r cymhelliad i gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi yn berthnasol i bob prentis a ddiswyddwyd waeth beth fo'u hoedran. Rhaid i'r prentis barhau i ddilyn yr un Llwybr Fframwaith Prentisiaethau y cawsant eu diswyddo ohono.
Y taliad cymhelliad i gyflogi ymgeiswyr ag anabledd
- Byddai cyflogwyr sy'n recriwtio prentis ag anabledd yn gymwys i dderbyn £1,500 yn ychwanegol.
Mae taliadau'n berthnasol i bob prentis y nodwyd ei fod yn anabl waeth beth fo'i oedran. Rhaid nodi anabledd y prentis wrth recriwtio a rhaid i'r cyflogwr fod yn ymwybodol o'r anabledd cyn gwneud y penderfyniad ynghylch recriwtio.
Cymhwysedd
- Mae'r cymhelliant ar gael i gyflogwyr sy'n cyflogi prentis newydd sydd:
- Yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd Prentisiaeth fel sydd wedi’u nodi ym Manyleb ddiweddaraf y Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith;
- yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol fel Prentis;
- yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac nid ar gontract dim oriau;
- nad yw wedi'i gyflogi gan gyflogwr sy'n hawlio'r cymhelliad (neu'r ysgol a gynhelir neu gwmni cysylltiedig) o fewn 6 mis i ddyddiad dechrau’r cymhelliad;
- â dyddiad dechrau cytundeb cyflogaeth a dyddiad dechrau cytundeb prentisiaeth dysgu rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2021
Taliad
- Bydd 50% cychwynnol yn daladwy unwaith y bydd y prentis wedi'i gyflogi a'i gofrestru ar y rhaglen Brentisiaethau am 4 wythnos. (Yn cael ei dalu fel ôl-daliad 1 mis o leiaf).
- Bydd y 50% sy'n weddill yn daladwy unwaith y bydd y prentis wedi'i gyflogi am 270 diwrnod ac yn dal i weithio tuag at ei gymhwyster (unwaith eto’n cael ei dalu
Ddiddordeb? Cysylltwch â ni!
Os hoffech gael gwybod mwy am y cymhellion sydd ar gael i gyflogi prentis, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y llwybrau hyfforddi a phrentisiaeth rydyn ni’n eu cynnig, cysylltwch â'n tîm datblygu busnes heddiw.
Ffoniwch 029 2046 4727, e-bostiwch info@acttraining.org.uk neu llenwch ein ffurflen ar-lein