Os ydych am ddechrau ar eich gyrfa neu roi hwb i’ch gyrfa bresennol, byddai Prentisiaeth yn le gwych i ddechrau.
Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu’n seiliedig ar waith sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac ennill cymhwyster lefel 2-5 sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, tra’n ennill cyflog - gan ei wneud yn ddewis gyrfa gwych i unrhyw berson ifanc.
Fel Prentis, byddwn yn sicr o’r canlynol:
Heblaw am y ffaith mai ni yw darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru a’n bod yn cynnig yr ystod fwyaf o gymwysterau dysgu yn seiliedig ar waith, y prif reswm mae pobl yn dewis ACT yw am ein bod yn wych yn gwneud beth rydyn ni’n ei wneud. Wedi ein sefydlu yn 1988, mae gennym beth wmbredd o brofiad mewn darparu hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o bobl wahanol o bob cefndir. Y flwyddyn ddiwethaf yn unig:
Yn ACT rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd Prentisiaeth gorau yng Nghymru. Rydym yn cynnig amrywiaeth enfawr o Brentisiaethau o ansawdd uchel gyda chyflogwr blaenllaw sydd yn awyddus i gyfarfod ymgeiswyr ifanc angerddol fel chi. Edrychwch ar ein swyddi gwag Prentisiaeth cyfredol.
Newyddion gwych, gallwn weithio gyda chi a’ch cyflogwr i ddarparu Prentisiaeth sy’n berthnasol i'ch swydd a lefel. Edrychwch ar ein llwybrau Prentisiaeth cyfredol.