Mae ACT yn ymwneud â phobl!
Ein pobl ni, dy bobl di a’r holl unigolion allan yna sydd am wella eu hunain, eu bywydau a'u rhagolygon gyrfaol.
Yn ACT, rydym i gyd yn hynod frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu gwych - ac mae pob un o’r 385 ohonom yn dod i'r gwaith bob dydd i wneud hynny.
Rydym yn darparu rhestr hir o raglenni hyfforddiant a chymwysterau sydd wir yn helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch mewn 30 o sectorau gwahanol, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau masnachol byr, mae gennym rywbeth i bawb a’r peth gorau yw, ariennir y rhan fwyaf o’n hyfforddiant yn llawn.
Ein Cenhadaeth
I wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu rhaglenni dysgu ardderchog.
Ein gweledigaeth
I fod yn brif ddarparwr hyfforddiant y DU.
Ein gwerthoedd craidd
Wnawn ni ddim dweud celwydd, mae hyfforddiant a ariennir yn llawn yn atyniad mawr, ond y prif reswm mae pobl yn dewis ACT yw oherwydd ein bod yn dda iawn am wneud yr hyn a wnawn. Wedi'i sefydlu yn 1988, mae gennym beth wmbredd o brofiad mewn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar gyfer unigolion a chyflogwyr yng Nghymru a Lloegr.
Er ein bod yn darparu llawer iawn o hyfforddiant, nid ydym yn anwybyddu ansawdd. Rydym yn falch iawn o'n gwaith ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth ardderchog bob tro. Rydym yn falch o ddweud bod gennym gyfradd llwyddiant o 85% (sy'n golygu bod cyfran uchel iawn o'n dysgwyr yn cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus) ac mae 96% o'n dysgwyr yn meddwl ein bod ni'n wych!
Rydym wrth ein bodd â’r hyn a wnawn, ac heb frolio, rydym yn ei wneud yn dda. Mae rhai o'n buddugoliaethau a’n canmoliaethau diweddar yn cynnwys: Responsible Large Business of the Year Award in the Business in the Community Cymru Responsible Business Awards 2018, 59ed yn y Sunday Times Virgin Fast Track 100 2018, Gwobr Darparwr am Weithio mewn Partneriaeth yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015, Sunday Times Cwmnïau Gorau yn y DU 2015, 78ed yn y Sunday Times Virgin Fast Track 100 2015, Wales and West Utilities Gwobr Ysbrydoli Talent Ifanc yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol Busnes yn y Gymuned 2014, Gwobr Darparu am Ymatebolrwydd Cymdeithasol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014, ac rydym wedi cadw ein Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl ers 2012.
Ond dyna ddigon amdanom ni, gadewch i ni siarad amdanoch chi. Os ydych
rydym yma i chi! Mae ein tîm o diwtoriaid ac aseswyr ac ymgynghorwyr cyfleoedd medrus ac ymroddedig yn barod i gwrdd â chi a dod o hyd i raglen sy'n addas at eich anghenion.