16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Maw 2024 / Company

Mae’r ddarpariaeth ysgolion yng Nghaerdydd, ACT Schools, wedi cael grant o’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu tynnu i droseddu treisgar trwy bandemig COVID-19.

Bydd ACT Schools yn defnyddio’r grant i sefydlu tîm sy’n gwbl symudol a fydd yn cynnwys gweithwyr allgymorth (wedi’u hyfforddi mewn gwaith ieuenctid ac fel athrawon) yn ogystal â chwnselydd mewn ysgolion i helpu i ailennyn diddordeb eu dysgwyr ar ôl COVID-19. Yn ogystal â chefnogi dychwelyd i addysg ac ailffocysu ar ragolygon gyrfa, bydd y tîm yn helpu dysgwyr i osgoi’r posibilrwydd o fod yn gysylltiedig â thrais a throsedd yn eu cymunedau. Bydd y grant hefyd yn galluogi pob dysgwr i brynu cyfrifiaduron Chrome Book er mwyn cefnogi eu datblygiad digidol. Bydd hyn yn helpu i arfogi dysgwyr â’r wybodaeth a’r adnoddau y byddan nhw eu hangen yn y dyfodol, os bydd dysgu o bellter cymdeithasol yn parhau.

 

Sefydlwyd ACT Schools yn 2012, mewn ymateb i nifer y bobl ifanc sy’n ymgysylltu ag ACT yn 16 mlwydd oed sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd diffygiol. Fe wnaeth ACT ddatblygu Rhaglen Ysgolion penodol, wedi’i thargedu fel ymgais i unioni’r mater sylfaenol hwn, sydd ar hyn o bryd yn rhwystr i lawer gormod o bobl ifanc ledled Cymru. Mae ACT yn credu’n gryf bod angen ymyrryd yn gynnar er mwyn sicrhau bod yr holl bobl ifanc; yn enwedig y rhai hynny sydd wedi’i ymddieithrio oddi wrth addysg, yn gallu cam i fyd gwaith gyda’r siawns orau posibl o lwyddo.

Gyda chanolfannau yng Nghaerdydd a Chaerffili, mae ACT Schools yn cynnig addysg amgen i bobl ifanc sydd wedi’u gwahardd neu mewn perygl o gael eu gwahardd, sydd â ffobia am fynd i’r ysgol neu sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i ymgysylltu â phobl ifanc a’u helpu i oresgyn eu rhwystrau i gyfranogi, eu paratoi ar gyfer bod yn oedolion a byd gwaith.

Wrth siarad am y dyfarniad grant, dywedodd Kelly Rowlands, Pennaeth Addysg 11-16 mlwydd oed yn ACT Schools, “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn y grant hwn o’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gythryblus dros ben i’n dysgwyr ac mae dychwelyd i addysg amser llawn yn mynd i achosi rhai heriau gwirioneddol. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i roi tîm cymorth arbenigol yn ei le i helpu i wneud y trosglwyddiad hwnnw yn ôl i’r ysgol ychydig yn haws i’n dysgwyr.”

Ychwanegodd Jon Yates, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Gwaddol Ieuenctid: “Mae wedi bod yn rhy hawdd anghofio pobl ifanc sy’n agored i niwed yn ystod yr argyfwng hwn. Mae’r pandemig wedi dileu llawer o’r cymorth hollbwysig y mae llawer ohonynt yn dibynnu arno – o athrawon i weithwyr ieuenctid. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o gyrraedd a chefnogi’r bobl ifanc hyn pan fyddant ei angen fwyaf.”

Mae ACT Schools yn un o 130 o sefydliadau sy’n rhannu rhan o grant gwerth £6.5m o’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid i helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu heffeithio gan COVID-19.

Ymddiriedolaeth elusennol annibynnol yw’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid a sefydlwyd gan y Swyddfa Gartref. Mae’n ariannu, yn cefnogi ac yn gwerthuso prosiectau yng Nghymru a Lloegr sy’n gweithio i atal plant a phobl ifanc rhag cael eu tynnu i droseddu treisgar.

Rhannwch