Saesneg - English

Swyddi dan Hyfforddiant



Ymgysylltu 

Yn ystod eich rhaglen Ymgysylltu Swyddi dan Hyfforddiant* gychwynnol yn ACT byddwch yn cael profiad dysgu amrywiol.  Yn ogystal â rhoi cynnig ar eich sgil ymarferol dewisol, byddwch yn dilyn rhaglen o sesiynau a gweithgareddau cyffrous.

*Mae pob rhaglen Ymgysylltu Swyddi dan Hyfforddiant yn rhan-amser gyda lwfans hyfforddi o £30 yr wythnos.

*Mae’r rhaglen Swyddi dan Hyfforddiant yn targedu ieuenctid di-waith.

Lefel 1

Eich camau nesaf fydd cyflawni cymhwyster lefel 1 yn eich llwybr dewisol a chael profiad hanfodol gyda chyflogwr ar leoliad ACT*. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gyflawni cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan gyfuno profiadau a phrosiectau fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith, addysg bellach ac am fywyd.

* Telir lwfans hyfforddi o £50 yr wythnos (isafswm) – oriau amser llawn.

Prentisiaethau Lefel 2 a 3

Ar ôl llwyddo i gwblhau eich lleoliad, efallai y cewch gyfle i gael eich cyflogi ar Brentisiaeth ACT*, gan gyflawni cymhwyster lefel 2 neu 3 yn eich llwybr dewisol tra’n ennill cyflog.

*Ewch i’n tudalen Prentisiaethau am fwy o wybodaeth.

Mae buddion y rhaglen Swyddi dan Hyfforddiant yn cynnwys:

  • Hyfforddiant gyda sgiliau hanfodol fel: cyfathrebu, gweithio fel tîm, datrys problemau a TG
  • Cipolwg ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
  • Y cyfle i dreulio ychydig wythnosau mewn mathau gwahanol o swyddi
  • Cymorth rheolaidd a chyngor da i’ch helpu i wneud y dewisiadau cywir
  • Hwb mawr i’ch hyder a rhagolygon mwy disglair ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho fersiwn PDF o’r Daflen Swyddi dan Hyfforddiant Newydd sy'n berthnasol i’ch ardal chi

       

       Caerdydd                       Caerffili

       

Pen-y-bont ar Ogwr            Wrecsam

My apprenticeship has not only helped me get a head-start in my career but it has built up my confidence and maturity.

Charlene Henshall