Camau i Gyflogaeth

Camau i Gyflogaeth
Ydych chi yn oedolyn di-waith sydd eisiau dychwelyd i’r gwaith?
Yn ACT gallwn roi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith.
Mae gennym dîm ymroddedig fydd yn gweithio gyda chi:
- I ddatblygu eich CV
- I wella eich sgiliau cyfweld
- I’ch cynorthwyo i lenwi ffurflen gais
- I ymestyn eich sgiliau ysgrifennu llythyr eglurhaol
- I gael lleoliadau gwaith sy’n addas ar gyfer eich diddordebau a’ch gyrfa ddewisol
Pa gymwysterau y gallaf eu cael?
Rydym yn darparu cymwysterau yn y meysydd canlynol:
- Gweinyddu Busnes
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- TG a’r Cyfryngau
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Manwerthu
- Gofal Anifeiliaid
- Trin Gwallt
- Mecaneg
- Adeiladu
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cynorthwywyr Addysgu (Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion)
- Gofal Plant
Nid cymwysterau yn unig...
Ein nod yw gwneud eich profiad dysgu mor foddhaus â phosibl gydag amrywiaeth o gyfleoedd:
- Gallwch gymryd rhan mewn teithiau undydd addysgiadol i fannau o ddiddordeb e.e. y Senedd, Pwll Mawr, Sain Ffagan
- Gwella eich mathemateg a’ch Saesneg
- Cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian.
A wyf yn gymwys?
Bydd angen i chi fod dros 18 oed ac yn derbyn budd-daliadau (Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cymorth Cyflogaeth neu Gymhorthdal Incwm)
Beth yw hyd y cwrs?
Bydd y cwrs yn parhau rhwng 13 a 26 wythnos yn seiliedig ar eich cymhwyster dewisol.
I wneud cais ar gyfer rhaglen Camau i Gyflogaeth ACT, cliciwch ar y ddolen isod ac ychwanegwch eich manylion. Neu cysylltwch â’ch canolfan waith agosaf.
Os oes gennych ddiddordeb, llenwch ein ffurflen Ymholiadau Dysgwyr
Camau i Gyflogaeth
- Lawrlwytho PDF




.jpg)









