Beth allaf hyfforddi ar ei gyfer a pha gwrs sydd yn addas i fi?
Mae’r rhaglen Swyddi dan Hyfforddiant wedi ei hanelu at ddysgwyr ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth ac y mae angen dysgu sgiliau galwedigaethol arnynt. Mae ACT yn darparu rhaglenni hyfforddiant i’r ieuenctid di-waith hynny sydd heb benderfynu ar eu nodau galwedigaethol. Mae’r rhaglenni hyn yn gweithredu yn ein canolfannau hyfforddiant pwrpasol ac yn ymgorffori hyfforddiant yn cwmpasu sgiliau TG, sgiliau bywyd a sgiliau sylfaenol.
Camau at Waith. Mae hon yn rhaglen i oedolion sydd wedi ei chynllunio i gynyddu eich cyfle o ddod o hyd i gyflogaeth reolaidd a hirdymor. Ynghyd â gweithgareddau chwilio swydd â chymorth a lleoliadau gwaith, gallwch wella eich techneg gyfweld, eich sgiliau ysgrifennu CV a’ch sgiliau cyflogadwyedd. Gallwn hefyd eich helpu i loywi amrywiaeth o sgiliau eraill y gall fod eu hangen arnoch mewn bywyd bob dydd wrth gael cymwysterau.
Mae Prentisiaeth Fodern Sylfaenol yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 2. Mae’n dilyn fframwaith wedi ei ddatblygu gan Gyngor Sgiliau Sector y diwydiant. Mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (FfCCh), Sgiliau Sylfaenol a thystysgrif alwedigaethol. Mae angen bob un o elfennau’r cymhwyster er mwyn cwblhau’r fframwaith.
Mae Prentisiaeth Fodern yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3. Mae’n dilyn fframwaith wedi ei ddatblygu gan y Cyngor Sgiliau Sector. Mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (FfCCh) ar Lefel 3, Sgiliau Allweddol a thystysgrif alwedigaethol. Mae angen bob un o elfennau’r cymhwyster er mwyn cwblhau’r fframwaith.
Hyfforddiant Masnachol – mae ACT yn cynnig ystod eang o hyfforddiant yn uniongyrchol i gwmnïau ac unigolion.
Nod Dysgu Hyblyg yw hyfforddi ac achredu gweithwyr i fodloni anghenion eu cyflogwyr.
Darpariaeth 14–16 – Mae ACT yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc ym mlynyddoedd 10 ac 11. Gall athrawon atgyfeirio pobl ifanc 14–16 oed i fynychu safle hyfforddi lle gallant weithio tuag at ystod o gymwysterau galwedigaethol o ansawdd uchel. Maent yn gallu gwneud y “Dystysgrif Mynediad Galwedigaethol” a chymhwyster FfCCh Lefel 1.




.jpg)









