Rhaglen Tîm Newydd Ymddiriedolaeth y Tywysog

Os ydych yn ddi-waith, yn ddiflas ac yn ansicr ynglŷn â’ch dyfodol, mae gan ACT rywbeth i’ch cyffroi!
Mae ACT wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth y Tywysog i gynnig Rhaglen Tîm i’n dysgwyr yng Nghaerffili a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’n rhad ac am ddim i breswylwyr 16-25 oed y DU sydd yn ddi-waith. Ni fydd yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith ac mae’n ddelfrydol ar gyfer y rheiny y mae eu diffyg hyder neu ddiffyg cymwysterau’n eu dal yn ôl.
Beth sy’n digwydd ar y cwrs?
Byddwch, ymysg pethau eraill:
- Yn rhan o dîm o 15 o bobl am 12 wythnos
- Yn cynnal prosiectau cymunedol o’ch dewis chi
- Yn cael wythnos breswyl yn llawn gweithgareddau
- Yn cael pythefnos o brofiad gwaith.
Sut byddaf yn elwa?
- Sgiliau ymarferol sy’n eich helpu mewn swydd ac mewn bywyd
- Credu yn yr hyn y gallwch ei gyflawni
- Cyngor am yrfaoedd a chymorth i chwilio am swydd a llunio CV
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned
- Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
- Gwella eich cyfle i gael swydd, addysg neu hyfforddiant.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Canolfan Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 758888 neu anfonwch e-bost: katywolar@acttraining.org.uk
Academi Sgiliau Caerffili ar 02920 867853 neu anfonwch e-bost: michelekerr@acttraining.org.uk




.jpg)









