16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Maw 2024 / Learners

Cyflawnodd dysgwyr gweithgar yn Ysgolion ACT ei raddau TGAU gorau erioed eleni! O’r rhai y dyfarnwyd TGAU iddynt, cafodd 57% raddau yn y braced A*- C. Mae hynny’n naid enfawr ers y llynedd, pan oedd 16% o ddysgwyr yn yr un band graddau. Mae’r gwelliant enfawr yn dyst nid yn unig i waith caled y tîm cyflwyno a chymorth dysgu, ond hefyd i’r dysgwyr unigol ymroddedig.

Maen nhw wir wedi rhoi popeth, drwy’r hyn sydd wedi bod yn 15 mis hynod aflonyddgar, ac wedi parhau i ganolbwyntio ar eu haddysg.

Dywedodd Kelly Rowlands, Pennaeth Addysg 11-16: “Mae’n wych gweld deilliannau TGAU mor haeddiannol i’n disgyblion eleni. Mae’r twf mewn cyflawniad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn glod i’r gwaith caled mae staff yn ei wneud i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y cyfle gorau i lwyddo.”

Eleni, codwyd y bar pan gyflawnodd dysgwr cyntaf Ysgolion ACT A* mewn TGAU! Fe wnaeth Charlie Wiley, a sgoriodd y radd uchaf ar gyfer Rhifedd Mathemateg, orffen y flwyddyn gyda phedwar TGAU (un A*, dau A ac un B) yn ogystal â chymhwyster L2 galwedigaethol, sy’n cyfateb i TGAU A*-C. Da iawn Charlie!

Dywedodd Sarah, ei fam falch iawn: “Fe wnaeth Charlie gael trafferth mewn tair ysgol brif ffrwd ar wahân a gofynnwyd iddo adael pob un ohonynt, gan nad oedd yn gwneud fawr ddim gwaith, os o gwbl. Pan ddechreuodd Charlie ACT ffynnodd. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n gorffen yr ysgol o gwbl a’r ffaith iddo orffen gyda’r canlyniadau hyn, mae wedi fy syfrdanu. Newidiodd ei hunan-barch, ei hyder a’i agwedd yn llwyr. Cyflenwyd y gefnogaeth a’r anogaeth yr oedd eu hangen mewn digonedd gan ACT.”

Ychwanegodd Emily Arscott, Athrawes Gelf Charlie: “Rwy’n falch iawn o Charlie a’r cyfan mae wedi’i gyflawni gyda mi dros y flwyddyn ddiwethaf. Gweithiodd yn galed iawn mewn amgylchiadau anodd ac mae’n haeddu’r holl glod mae’n ei gael.”

Canmolodd Antony Leach, Rheolwr Canolfan ysgolion ACT, Caerffili, gyflawniad anhygoel Charlie hefyd. 

Dywedodd: “Yn ystod y cyfyngiadau symud, ymgysylltodd Charlie yn dda iawn ar-lein ac yn y ganolfan ac mae’n llwyr haeddu’r graddau y mae wedi’u cyflawni eleni. Dymunaf bob llwyddiant i Charlie yn y dyfodol a gobeithio ei fod mor falch ohono’i hun ag yr ydym ni ohono.”

Y rhai eraill o Ysgolion ACT a gyflawnodd yn uchel oedd y dysgwr disglair Callum Inker, a orffennodd y flwyddyn gyda phedwar TGAU (un A, tri B) yn ogystal â dau gymhwyster galwedigaethol Lefel 1. Mae nawr yn mynd ymlaen i astudio Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Callum: “Pe bawn i wedi aros yn yr ysgol brif ffrwd, fyddwn i ddim wedi cael y graddau a gefais yn ACT. Roedd y tiwtoriaid yn gefnogol iawn ac rwy’n falch o’m canlyniadau.”

Dywedodd ei athrawes Saesneg Lisa Bailey; “Pan ddechreuodd Callum gredu ynddo’i hun, roedd y newid yn enfawr. Mae Callum wedi tyfu’n ddyn ifanc diffuant, gweithgar, cyfeillgar a pharchus ac mae ganddo’r holl sgiliau sydd eu hangen i fynd ymlaen i gyflawni pethau gwych.”

Ychwanegodd Kie Baldwin, Rheolwr Canolfan yn Ysgolion ACT, Caerdydd: “Mae’r newid yn Callum ers iddo ymuno â ni yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi bod yn rhyfeddol. Mae ei raddau’n deillio o waith caled, twf, ymroddiad a myfyrio personol ac rwy’n dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.”

Yn Ysgolion ACT eleni, roedd un A*, ynghyd â chwech A, 24 B a 23 C.

Mae Ysgolion ACT yn teimlo’n angerddol am sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael eu harfogi i ddod yn oedolion llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o sgiliau a galluoedd.  Rydym yn cynnig opsiwn gwirioneddol amgen i ddysgu’r brif ffrwd, sydd wedi’i gynllunio i ymgysylltu â phobl ifanc a’u helpu i oresgyn eu rhwystrau rhag cymryd rhan, eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolion ac ar gyfer byd gwaith. Hefyd rydym yn angerddol am leihau’r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET).

I gael gwybod mwy am Ysgolion ACT, cliciwch yma.

Rhannwch