16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Maw 2024 / Learners

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa sgiliau a swyddi gwerth £40 miliwn i annog a chefnogi cyflogwyr i greu cyfleoedd hyfforddi, prentisiaeth a chyflogaeth newydd ledled Cymru.

Mewn ymgais i greu 6,000 o rolau prentisiaeth newydd, gall busnesau fod yn gymwys i gael taliad cymhelliad o hyd at £3,000 ar gyfer pob prentis newydd fydd yn cael ei gyflogi. Bydd y cymhellion yn rhedeg rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2021 a byddant yn helpu busnesau i ddatblygu a chynnal gweithlu medrus.

Mae gwahanol gymhellion ar gael i gyflogwyr, yn dibynnu ar oedran ac oriau cyflogaeth y dysgwr. Mae cymhellion hefyd i gyflogwyr sy’n recriwtio ymgeiswyr anabl neu brentisiaid a ddiswyddwyd o’u cyfle prentisiaeth blaenorol.

A allech chi a’ch busnes fod yn gymwys?

Mae’r cymhelliant ar gael i gyflogwyr sy’n cyflogi prentis newydd sydd:

  • Yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd prentisiaeth fel sydd wedi’u nodi ym Manyleb ddiweddaraf y Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith;
  • yn cael ei gyflogi’n uniongyrchol fel Prentis;
  • yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac nid ar gontract dim oriau;
  • nad yw wedi’i gyflogi gan gyflogwr sy’n hawlio’r cymhelliad (neu’r ysgol a gynhelir neu gwmni cysylltiedig) o fewn 6 mis i ddyddiad dechrau’r cymhelliad;
  • â dyddiad dechrau cytundeb cyflogaeth a dyddiad dechrau cytundeb prentisiaeth dysgu rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2021

Beth yw’r taliadau cymhelliad?

Y cymhelliad i gyflogi pobl ifanc 16-24 mlwydd oed

  • £3,000 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sydd o dan 25 mlwydd oed lle mae’r contract cyflogaeth o leiaf 30 awr yr wythnos.
  • £1,500 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sydd o dan 25 mlwydd oed lle mae’r contract cyflogaeth rhwng 16 a 29 awr yr wythnos.

Y cymhelliad i gyflogi prentisiaid 25 mlwydd oed a throsodd

  • £2,000 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sy’n 25 mlwydd oed a throsodd lle mae’r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos.
  • £1,000 ar gyfer pob prentis newydd a recriwtiwyd sy’n 25 mlwydd oed a throsodd lle mae’r contract cyflogaeth am llai na 30 awr yr wythnos.

Cyfyngir y taliadau i uchafswm o ddeg prentis fesul cyflogwr.
Rhaid i gyflogwyr allu ymrwymo i gyflogi’r prentis am yr amser sydd ei angen i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth.

Y cymhelliad i ail-gyflogi prentis sydd wedi colli ei swydd

  • £2,600 ar gyfer ail-gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi, lle mae’r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos.
  • £1,300 ar gyfer ail-gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi, lle mae’r contract cyflogaeth rhwng 16-29 awr yr wythnos.

Rhaid bod prentisiaid wedi colli eu swyddi o raglen/rôl Brentisiaeth flaenorol rhwng 23/03/2020 a 28/02/2021.
Mae’r cymhelliad i gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi yn berthnasol i bob prentis a ddiswyddwyd waeth beth fo’u hoedran.
Rhaid i’r prentis barhau i ddilyn yr un Llwybr Fframwaith Prentisiaethau y cawsant eu diswyddo ohono.

 Y cymhelliad i gyflogi ymgeiswyr ag anabledd

  • Byddai cyflogwyr sy’n recriwtio prentis ag anabledd yn gymwys i dderbyn £1,500 yn ychwanegol.

Mae taliadau’n berthnasol i bob prentis y nodwyd ei fod yn anabl waeth beth fo’i oedran.
Rhaid nodi anabledd y prentis wrth recriwtio a rhaid i’r cyflogwr fod yn ymwybodol o’r anabledd cyn penderfynu recriwtio. 

Ddiddordeb? Cysylltwch â ni!

Os hoffech gael gwybod mwy am y cymhellion sydd ar gael i gyflogi prentis, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y llwybrau hyfforddi a phrentisiaeth rydyn ni’n eu cynnig, cysylltwch â’n tîm datblygu busnes heddiw.

Ffoniwch 029 2046 4727, e-bostiwch info@acttraining.org.uk neu llenwch ein ffurflen ar-lein

Rhannwch