Prentisiaethau
Mae Prentisiaethau Sylfaenol yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 2. Mae’n dilyn fframwaith a ddatblygwyd gan Gyngor Sgiliau Sector y diwydiant. Mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (FfCCh), Sgiliau Hanfodol Cymru a thystysgrif alwedigaethol. Mae angen bob un o elfennau’r cymhwyster i gwblhau’r fframwaith.
Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3. Mae’n dilyn fframwaith a ddatblygwyd gan y Cyngor Sgiliau Sector. Mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (FfCCh) ar Lefel 3, Sgiliau Hanfodol Cymru a thystysgrif alwedigaethol. Mae angen bob un o elfennau’r cymhwyster i gwblhau’r fframwaith.
Mae gan ACT adran Schools Assist wedi ei neilltuo sy’n darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol am ddim i Gynorthwywyr Addysgu, gweithwyr Gofal Plant, gofalwyr a staff gweinyddol mewn ysgolion. Mae Schools Assist yn cynnig Prentisiaethau Sylfaenol, Prentisiaethau a Dysgu Hyblyg ar bob un o’r llwybrau hyn.
Wedi ei sefydlu yn 2005 mewn cydweithrediad ag ACT, Ysgol Hen Felin ac unedau hyfforddiant proffesiynol Cae’r Drindod, dau o ysgolion anghenion arbennig mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Schools Assist yn darparu hyfforddiant mewn ysgolion ar draws De Ddwyrain Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau addysg lleol Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Casnewydd, Bro Morgannwg ac yn arbennig gwasanaeth ysgolion a dysgu gydol oes Caerdydd.
Mae ein safonau bob amser yn uchel a gwarentir cyflenwi ansawdd bob amser. Rydym yn cael adborth rhagorol gan ein hymgeiswyr.



.jpg)









