16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeships

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn: 

Mae ein Diploma Gweinyddu Busnes Lefel 3 wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd am weithio mewn rolau cefnogaeth gweinyddol mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu’r sector breifat, neu sydd am wella eu sgiliau gweinyddol a goruchwyliol. 

Cefnogir dysgwyr drwy eu cymhwyster, gan arddangos sgiliau busnes a gweinyddu, trin cwsmeriaid, sgiliau technegol ac ymarferol, cyfathrebu ar lafar a sgiliau TG. 

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sydd am weithio mewn rolau cefnogaeth gweinyddol mewn sefydliadau sector cyhoeddus neu breifat, neu sydd am wella eu sgiliau gweinyddol a goruchwyliol. 

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). 

  • Cyfathrebu mewn Amgylchedd Busnes 
  • Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol 
  • Egwyddorion Gweinyddiaeth 
  • Egwyddorion Cyfathrebu a Gwybodaeth Busnes 
  • Egwyddorion Busnes 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun. 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams), yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau. 

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at Brentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 4.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys: 

  • Ysgrifennydd 
  • Derbynnydd 
  • Gweinyddwr 
  • Cynorthwyydd personol 
  • Arweinydd tîm  
  • Goruchwyliwr swyddfa 
  • Rheolwr 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod: 

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf) 
  • yn byw yng Nghymru 
  • ddim mewn addysg llawn amser 
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru 
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma.

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd: 

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr 
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster 
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd 
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster 
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru 

Math o gwrs

Apprenticeships

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr