16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae ACT yn ymwneud â phobl!

Ein pobl ni, dy bobl di a’r holl unigolion allan yna sydd am wella eu hunain, eu bywydau a’u rhagolygon gyrfaol.

Yn ACT, rydym i gyd yn hynod frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu gwych – ac mae pob un o’r 372 ohonom yn dod i’r gwaith bob dydd i wneud hynny.

Rydym yn darparu rhestr hir o raglenni hyfforddiant a chymwysterau sydd wir yn helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch mewn 30 o sectorau gwahanol, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau masnachol byr, mae gennym rywbeth i bawb a’r peth gorau yw, ariennir y rhan fwyaf o’n hyfforddiant yn llawn.

Gwella bywydau trwy ddysgu.

Cael eich cydnabod fel un o’r darparwyr hyfforddiant mwyaf blaenllaw yn y DU.

  • Bod yn bositif a meddu ar agwedd ‘medru gwneud’
  • Cymryd parch a chyfrifoldeb mewn rhagori ar ddisgwyliadau
  • Helpu dysgwyr i gynyddu a sylweddoli dyheadau
  • Cael hwyl wrth ddarparu gwasanaeth proffesiynol, diogel a chyfeillgar
  • Dangos parch i unigolion

Pam dewis ACT?

Wnawn ni ddim dweud celwydd, mae hyfforddiant a ariennir yn llawn yn atyniad mawr, ond y prif reswm mae pobl yn dewis ACT yw oherwydd ein bod yn dda iawn am wneud yr hyn a wnawn. Wedi’i sefydlu yn 1988, mae gennym beth wmbredd o brofiad mewn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar gyfer unigolion a chyflogwyr yng Nghymru.

o bobol ifanc

6,500
cyflawnodd eu huchelgeisiau gyrfaol drwy ein rhaglenni hyfforddi yn 2020/21

y cant

83
o’n dysgwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch

cyflogwyr

1,100
ymgysylltodd â ni y llynedd i uwchsgilio eu gweithlu presennol drwy ein rhaglenni Prentisiaeth

Er ein bod yn darparu llawer iawn o hyfforddiant, nid ydym yn anwybyddu ansawdd. Rydym yn falch iawn o’n gwaith ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth ardderchog bob tro. Rydym yn falch o ddweud bod gennym gyfradd llwyddiant o 85% (sy’n golygu bod cyfran uchel iawn o’n dysgwyr yn cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus) ac mae 96% o’n dysgwyr yn meddwl ein bod ni’n wych!

Arobryn!

Rydym wrth ein bodd â’r hyn a wnawn, ac heb frolio, rydym yn ei wneud yn dda. Mae rhai o’n buddugoliaethau a’n canmoliaethau diweddar yn cynnwys:

  • Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+), yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021
  • Achrediad platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl ers 2020
  • Achrediad Aur Buddsoddwyr mewn Pobl 2012-2019
  • 7fed Cyflogwr Aur Gorau (gyda 250-4999 o weithwyr) yng Ngwobrau blynyddol Buddsoddwyr mewn Pobl 2017
  • 39ain Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddo yn y DU, 2021
  • 5ed Cwmnïau Addysg a Hyfforddiant Gorau i Weithio iddynt yn y DU, 2021
  • Achrediad 3 Seren y Cwmnïau Gorau, 2021
  • Cwmnïau Gorau’r Sunday Times yn y DU 2020, 2019, 2018, 2015, 2014 a 2012

 

  • Busnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn, yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol Busnes yn y Gymuned Cymru 2018

Ond dyna ddigon amdanom ni, gadewch i ni siarad amdanoch chi.

Os ydych:

  •  Wedi gadael yr ysgol ac am ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn eich helpu i fynd i mewn i’r byd gwaith
  • Ddim yn mynd i brifysgol ac yn chwilio am opsiwn arall gyda rhagolygon gyrfaol gwych
  • Mewn gwaith ac yn dymuno ennill cymwysterau pellach i wella eich datblygiad personol
  • Yn ddi-waith ac am wella eich cyflogadwyedd a dychwelyd i’r byd gwaith
  • Yn rheolwr neu berchennog busnes sydd am ddatblygu sgiliau eu gweithlu neu gyflogi Hyfforddai neu Brentis

Rydym yma i chi! Mae ein tîm o diwtoriaid ac aseswyr ac ymgynghorwyr cyfleoedd medrus ac ymroddedig yn barod i gwrdd â chi a dod o hyd i raglen sy’n addas at eich anghenion.