Amdanom Ni
Cafodd Associated Community Training (ACT) ei sefydlu ym 1988 ac ers hynny mae wedi cael enw da fel un o’r darparwyr hyfforddiant mwyaf arloesol a phroffesiynol yng Nghymru, yn cyflwyno Hyfforddiant o safon Fyd-eang

Rydym yn cynnig ystod unigryw ac arloesol o wasanaethau hyfforddiant a chyflogaeth, sydd wedi ein cynorthwyo i gyflawni’r lefelau uchaf yn barhaus o ran canlyniadau dysgwyr a’u datblygiad personol. Yn sgil hyn, ni yw un o ddarparwyr hyfforddiant sgiliau mwyaf blaenllaw Llywodraeth Cymru.
Mae ACT wedi datblygu perthynas agos gyda llawer o gwsmeriaid strategol. Mae’r cyflogwyr hyn yn gwerthfawrogi staff cymwys iawn a’n gallu i gynnig atebion arloesol yn fewnol neu drwy ein rhwydwaith unigryw o bartneriaid strategol.
Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd
Cenhadaeth ACT yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu cyfleoedd hyfforddiant rhagorol. Mae ACT yn annog pum gwerth craidd.
- Bod yn Gadarnhaol a chael agwedd o “allu gwneud”
- Ymfalchïo mewn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau pobl
- Helpu i godi a gwireddu dyheadau pobl
- Cael hwyl yn darparu gwasanaeth proffesiynol, diogel a chyfeillgar
- Showing a deep respect for
- Dangos parch mawr at unigolion
Cyflawniada
• Ym mis Hydref 2006, cafodd ACT 8 Gradd 1 ac 1 Gradd 2 yn adroddiad diweddaraf ESTYN, sy’n ein gwneud yn un o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gorau Cymru.
• Ym mis Tachwedd 2007, cyflawnodd ACT Ddyfarniad “Proffil” Buddsoddwyr mewn Pobl, gyda graddau ymysg yr uchaf yn y wlad ar gyfer strategaethau dysgu, datblygu a rheoli pobl. Yna cawsom ein hailasesu ym mis Rhagfyr 2010 a chael statws “aur”.
• Yn 2010 a 2011, cafodd ACT ‘Statws Seren’ gan y Canllaw Cwmnïau Gorau am y ffordd y gwnaethom ddatblygu ein staff. Yn 2012, cawsom hefyd le yn y 100 lle gorau i weithio yn y DU.
• Ym mis Mai 2011, enillodd ACT y contract mwyaf erioed yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn oherwydd y graddau rhagorol a gawsom yn ein Hadolygiad Perfformiad Darparwr, y mae Llywodraeth Cymru’n ei gynnal yn flynyddol. O ganlyniad, mae ACT wedi sicrhau cytundeb mawr i hyfforddi dros 8,000 o bobl y flwyddyn ac yn bwriadu dyblu o ran maint a chreu dros 100 o swyddi newydd.
• Ym mis Mehefin 2011, cafodd ACT ddyfarniad Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Lefel 2. Cawsom y dyfarniad i gydnabod y gwelliant y mae ACT wedi ei wneud yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd fel cwmni. Roedd hyn o ganlyniad i waith caled iawn gan y Tîm Rheoli Amgylcheddol, hyrwyddwyr ADCDF a phob aelod o’r staff sy’n wedi ein cynorthwyo i roi ein syniadau ar waith.
• Ym mis Medi 2011, cyflawnodd ACT y Nod Ansawdd Sgiliau Sylfaenol trwy ddarparu hyfforddiant ar lefel uchel i’n dysgwyr i gyd, ynghyd â chyfle i wella eu sgiliau mewn Llythrennedd a Rhifedd.
............................................................................................................................................
Mae gan ACT nifer o ganolfannau hyfforddiant ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Caerdydd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd a Wrecsam.
Arolygwyr yn rhoi graddau rhagorol i ACT!
Lawrlwytho Adroddiad Arolygiad ESTYN 2006
...........................................
ACT yn cael cydnabyddiaeth o waith rhagorol ym maes rheolaeth a datblygu pobl


.jpg)









